Pasg 2024

Helo Bawb

Gobeithio eich bod yn iawn ac yn edrych ymlaen at gael rhyw fath o hoe dros wyliau’r Pasg. Mae wedi bod yn gyfnod prysur ym Mro Edern unwaith eto, gyda chymaint i’w ffitio mewn i ddau hanner tymor o bump wythnos yr un. Mae’r wythnosau diwethaf hyn yn gyfnod tyngedfennol i ddisgyblion mewn blynyddoedd arholiad, ac mae’r mwyafrif wedi bod wrthi’n ddiwyd yn cwblhau gwaith cwrs a gwaith ymarferol, ac yn ymarfer ar gyfer arholiadau llafar. Diolch ymlaen llaw i’r holl staff sy’n cynnal sesiynau adolygu dros y gwyliau er mwyn helpu’r disgyblion i lwyddo.

Ar ôl y Pasg

Ar ôl y Pasg, byddwn yn ailosod safonau unwaith eto, wrth i ni ddechrau ar dymor newydd pwysig sy’n dod â’r flwyddyn academaidd hon i ben. Byddwn atgoffa disgyblion unwaith eto o gynnwys ein posteri Agwedd at Ddysgu, sydd i’w gweld ym mhob ystafell ddosbarth. Mae’r rhain yn amlinellu ein disgwyliadau cyson dyddiol ym Mro Edern – Cymreictod, prydlondeb, presenoldeb, offer, ac agwedd gadarnhaol at waith.

Gwisg Ysgol

Byddwn yn gwirio gwisg ysgol ar ôl y gwyliau, er mwyn sicrhau bod pawb yn cwrdd â’n safonau sy’n eglur ac yn hysbys i bawb. Os oes angen eitemau arnoch, bydd angen ymweliad â YC Sports dros y gwyliau, neu â’r Swap Siop yn yr wythnos gyntaf ar ôl y gwyliau. Mae angen siwmper ysgol go iawn ar bawb. Nid yw’r hoodie allgyrsiol, na hoodie taith Real Madrid yn rhan o’r wisg ysgol feunyddiol. Dylai disgyblion fod mewn siwmperi ysgol bob dydd.

Carem atgoffa rhieni’r un pryd fod angen bag ysgol ar ddisgyblion bob dydd, yn cynnwys cas pensil, Chromebook yr ysgol wedi gwefru’n llawn, llyfrau ac adnoddau’r dydd a chit ymarfer corff. Yng ngwaelod y bag mae cartref ffonau symudol.

Cofiwch fod modd i rai ohonoch gynnig am y Grant Hanfodion Ysgol, sy’n cynorthwyo gyda chost gwisg ayb. Darllenwch y manylion llawn YMA.

Cynhelir Swap Siop cyntaf y tymor newydd nos Fercher 10 Ebrill ar ôl ysgol. Croeso i chi alw draw i gasglu gwisg gan y Cyfeillion.

Ffonau Symudol

Diolch i’r mwyafrif helaeth o’n disgyblion sy’n dilyn ein polisi ffonau symudol eglur, drwy ddiffodd eu ffonau’n llwyr bob dydd rhwng 8:30am a 3pm a’u gosod yng ngwaelod y bag. Os oes angen unrhyw gyfathrebu rhwng y cartref a’r disgybl neu’r ysgol, mae hynny angen digwydd drwy alwad ffôn i dderbynfa’r ysgol neu e-bost i’r pennaeth blwyddyn. Os oes argyfwng, ac mae angen i ddisgybl gysylltu gyda’r cartref ar fyrder, gallant fynd i’r swyddfa i ffonio. Mae llond llaw o ddisgyblion wedi gorfod mynd ar gynllun lle maen nhw’n gorfod cyflwyno eu ffôn bob bore, am eu bod wedi torri rheol ffonau symudol yr ysgol yn gyson a bydd hyn yn parhau yn y tymor newydd.

Fel llawer iawn o ysgolion, ar ddechrau’r tymor newydd byddwn yn parhau gyda’n polisi ffonau symudol, gan ofyn i unrhyw ddisgybl sydd â ffon symudol yn y golwg, ei roi yn ddiogel yn y dderbynfa tan ddiwedd y dydd. Ni fyddwn yn rhoi rhybudd, gan ein bod wedi rhoi digon o sylw i’r ffaith nad oes ffonau i fod yn weladwy ar safle’r ysgol. Diolch yn fawr i chi fel rhieni am eich cefnogaeth i’n polisi hanfodol.

Mae llawer o ymchwil ar y gweill i effaith ffonau symudol ar bobl ifanc, gweler yr erthygl hon o SchoolsWeek, sy’n crybwyll gwahardd ffonau symudol o ysgolion Lloegr:

“Smartphone use is an addiction with profound personal and social consequences that stretch well beyond the classroom and into every segment of our lives. Its impact is most profound on the youngest addicts: our students …

Although the causes are multifactorial, a growing body of evidence suggests that excessive smartphone use is a significant factor in many adverse mental health, physical health, developmental and educational problems. The negative impact of smartphone use on attention span and its generation of addictive-type dependencies, is well documented.”

Rydyn ni’n cydnabod mai ond am ran o’r dydd y mae ein disgyblion gyda ni yn yr ysgol, ac mae’r sefyllfa y tu hwnt i’n rheolaeth wedi 3pm, ond mae ein polisi’n golygu y gall ein disgyblion dreulio’u diwrnod yn rhydd o unrhyw demtasiwn, yn gwybod na chânt eu ffilmio, yn gwybod nad yw eu ffrindiau ar eu ffonau chwaith, ac nad ydynt yn cael eu bombardio gyda hysbysiadau’n mynd “ping” drwy’r dydd. Mae angen i’r ysgol fod yn lle saff i’r disgyblion, yn rhydd o’u ffonau, er mwyn iddynt fedru canolbwyntio ar eu gwaith a’u dyfodol.

Cyfathrebu gyda’r ysgol

Diolch yn fawr iawn i’r rhieni sy’n cysylltu gyda ni’n gwrtais, yn briodol ac yn amserol i drafod gwahanol agweddau fywyd yr ysgol sy’n codi o dro i dro.

A allwn ni ofyn unwaith eto, i’n rhieni fod yn gwrtais ac yn amyneddgar gyda staff y swyddfa a’r dderbynfa, a’n staff dysgu, boed hynny ar dir yr ysgol, ar y ffôn neu mewn e-bost. Dylai unrhyw gyfathrebu cychwynnol rhwng y cartref a’r ysgol fod drwy’r Pennaeth Blwyddyn. Nid yw rhieni i e-bostio athrawon eraill. Diolch ymlaen llaw i chi gyd am eich cydweithrediad.

Cyfeiriadau e-bost newydd staff

Mae e-bost pob aelod o staff yn newid yn syth ar ôl y Pasg, wrth i ni drosglwyddo i Hwb, ar gais y sir. Peidiwch ag anghofio’r DOT rhwng yr enw a’r cyfenw. Dyma’r manylion cyswllt newydd:

Blwyddyn 7: Bethan.Prosser@broedern.cymru

Blwyddyn 8: Joshua.Ward@broedern.cymru

Blwyddyn 9: Lowri.Jones@broedern.cymru

Blwyddyn 10: Cai.Milsom@broedern.cymru // Lowri.Loader@broedern.cymru

Blwyddyn 11: Bethan.Yapp@broedern.cymru

Chweched: Nia.Land@broedern.cymru // Alun.Evans@broedern.cymru

Ymholiadau am y bysus: bws@broedern.cymru

Ymholiadau am ClassCharts: classcharts@broedern.cymru

Ymholiadau am ParentPay: parentpay@broedern.cymru

Cost Cinio Ysgol a Dyledion

Ar ôl y Pasg, bydd Sir Caerdydd yn codi pris cinio ysgol ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd. Bydd pris Pryd y Dydd ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn mynd o £3.30 i £3.40. Mae pris rhai eitemau unigol hefyd yn codi ychydig geiniogau.

Mae’n hollbwysig nad yw disgyblion yn mynd i ddyled yn y ffreutur. Mae’n cael ei redeg fel busnes gan Adran Arlwyo’r sir. A wnewch chi osod yr “Auto top-up” ar gyfrif eich plentyn? Golyga hyn na fyddant yn mynd i ddyled. Mae ambell ddyled ar gyfrifon disgyblion ym mlwyddyn 11, 12 a 13. Ar ddiwedd yr arholiadau, bydd angen i chi wirio’r sefyllfa – ni fydd disgyblion yn medru cael canlyniadau eu harholiadau ym mis Awst nes i’r ddyled gael ei chlirio.

Rydyn ni’n deall ei bod yn adeg heriol i lawer o bobl o ran arian, gwaith a chyflogau. Os ydych chi’n credu bod eich plentyn yn medru hawlio Prydau Ysgol am Ddim, yna sicrhewch eich bod yn gwneud cais. Ni fydd unrhyw un yn yr ysgol ddim callach – mae pawb yn mynd i’r un ciw, ac mae swm Pryd y Dydd yn ymddangos yn awtomatig ar gyfrif bawd eich plentyn yn ddyddiol.

Er mwyn cynnig i hawlio prydau ysgol am ddim, cliciwch yma.

Staffio

Bydd ambell i newid staffio ar ôl y Pasg. Mae Miss Eurgain Vaughan Evans, Arweinydd y Gymraeg yn mynd ar gyfnod mamolaeth. Pob dymuniad da iddi hi gyda’r bennod gyffrous hon. Bydd Mr Wil Davies yn dychwelyd atom o’r gorllewin gwyllt ac yn dysgu’r mwyafrif o wersi Miss Evans dros y cyfnod nesaf. Bydd Miss Elin Lloyd yn camu i’r bwlch i arwain yr adran.

Mae Miss Rhiannon Phillips-Griffiths, Daearyddiaeth a Thwristiaeth, hefyd yn mynd ar gyfnod mamolaeth. Hoffem ni gyd ddymuno’r gorau iddi hi yn ogystal. Bydd Mr Aled Lewis, sydd wedi bod yn gweithio’n selog yn y Porth, yn ymgymryd gyda’r rhan fwyaf o wersi Miss Phillips-Griffiths.

Mae Miss Megan Rose, Saesneg, yn cychwyn ar swydd newydd fel ail yn yr Adran Saesneg yn Ysgol Garth Olwg. Rydyn ni’n dymuno pob lwc iddi yn ei swydd newydd. Ar ôl y Pasg, bydd Mrs Judith Phillips, sy’n aelod profiadol o staff sydd wedi dysgu Saesneg ac ieithoedd gyda ni ers amser, yn ymgymryd ag amserlen Miss Rose.

Yn syth ar ôl y Pasg, mae Mrs Rita Bevan-Williams yn dechrau ar flwyddyn sabothol yn rhan amser gyda CBAC, yn gweithio ar y cymwysterau Dyniaethau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd hi’n parhau i ddysgu gwersi ym Mro Edern ar ddydd Mercher, a bydd gweddill ei gwersi’n cael eu rhannu rhwng Mrs Cooper a Mr Pritchard ein pennaeth, sy’n hanesydd profiadol.

Yn ail wythnos y tymor newydd bydd Mr Gary Ellis yn dychwelyd atom o’i gyfnod tadolaeth estynedig. Rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu nôl i Fro Edern.

Yn y drydedd wythnos ar ôl y gwyliau, bydd Mr Osian George yn cychwyn ar ei swydd newydd yn digideiddio’r cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd gydag Agored Cymru. Mae Mr George wedi oedi ar ddechrau ar ei swydd newydd, er mwyn gorffen dysgu ei holl ddosbarthiadau arholiad. Mae’r disgyblion wedi cael gwybod ers amser am y dyddiadau cau ar gyfer eu holl waith Bac, oherwydd mae Mr George angen treulio’r Pasg a phythefnos cyntaf y tymor newydd yn marcio’r holl waith ar y cyd â Miss Ainsworth ac uwchlwytho popeth i wefan CBAC cyn dechrau gyda Agored Cymru. Rydym yn dymuno’r gorau iddo gyda’i swydd newydd ac yn diolch iddo am ei holl gyfraniadau digidol, dylunio a dysgu ar hyd yr amser ym Mro Edern. Bydd Arweinydd Bac newydd yn cychwyn gyda ni ym mis Medi.

Yn sgil y newidiadau hyn, bydd rhai mân addasiadau i’r amserlen. Dylai hyn syncio’n awtomatig ar ClassCharts ar ddiwedd y gwyliau.

Sesiynau Adolygu dros y Pasg

Yn ystod y gwyliau, mae nifer o staff yn cynnal sesiynau adolygu yn yr ysgol. Os ydyn nhw’n berthnasol i’ch plentyn, sicrhewch eu bod yn mynychu’r sesiynau pwysig hyn.

Dyma’r amserlen ar gyfer y pythefnos o wyliau; mae’n cynnwys sesiynau adolygu ar gyfer bl 11, 12 a 13:

Cofiwch hefyd am y sesiynau adolygu amser cinio / ar ôl ysgol a fydd yn parhau ar ôl y Pasg, gan ddilyn yr un amserlen ag o’r blaen:

Trefniadau Arholiadau

Bydd arholiadau allanol CBAC yn dechrau ar 9 Mai. Mae disgyblion o flynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn sefyll arholiadau rhwng y diwrnod hwn a diwedd Mehefin. Dyma’r drefn ar gyfer sefyll yr arholiadau:

  • Arholiad bore – angen cyrraedd i gofrestru dan y canopi erbyn 8:30am. Gadewch ddigon o amser, oherwydd bydd traffig trwm. Mae pob disgybl ledled Cymru’n GORFOD dechrau pob arholiad ar yr un adeg. Nid ein rheol ni yw hwn a gallwn gael spot checks gan CBAC ar unrhyw adeg.
  • Arholiad pnawn – angen cyrraedd i gofrestru dan y canopi erbyn 12:30pm
  • Gwisg ysgol lawn a smart, yn cynnwys esgidiau duon lledr, neu’n edrych fel lledr
  • Cas pensil tryloyw ac offer perthnasol
  • Offer Mathemateg, gan gynnwys cyfrifiannell yn hanfodol ar gyfer bl 11
  • Dim oriawr clyfar e.e. Apple Watch yn cael eu gwisgo yn yr ystafell arholiad
  • Dim ffonau symudol na nodiadau o unrhyw fath yn y pocedi
  • Dim defnydd o ffonau na ffonau clust o amgylch yr ysgol i ddisgyblion arholiadau, fel pawb arall

Mae disgyblion arholiadau wedi derbyn DAU gopi papur personol gan CBAC o’u hamserlen arholiadau ddydd Gwener 22 Mawrth. Mae amserlen pob disgybl yn wahanol, yn ddibynnol ar opsiynau a setiau. Mae’n hanfodol nad yw disgyblion yn colli’r amserlen hwn. Mae un copi ar gyfer y disgybl a’r llall er mwyn rhoi mewn man canolog yn y tŷ er mwyn i bawb weld e.e. ar y ffridj.

Er mwyn gweld amserlen pob pwnc a phob blwyddyn, gallwch edrych ar wefan CBAC. Mae’r wefan yn cynnwys arholiadau’r haf, Tachwedd ac mae drafft eisoes ar gyfer amserlenni Ionawr a Haf 2025:

Amserlenni holl arholiadau CBAC

Er mwyn i rieni helpu’u plant i baratoi ar gyfer yr arholiadau, rydyn ni wedi trefnu cyfarfodydd ar gyfer rhieni yn y gorffennol. Dyma recordiad o’r cyfarfodydd hynny:

Trefniadau Blwyddyn 10

Bydd gan flwyddyn 10 arholiadau mewn rhai pynciau, ond ddim mewn eraill. Oherwydd hyn, bydd blwyddyn 10, yn ôl yr arfer, yn parhau mewn gwersi drwy’r holl gyfnod tan yr haf. Ar ddiwrnod arholiad byddant yn cael eu tywys i’r canopi i gofrestru a byddant yn mynd i’r lleoliad arholiad, cyn dychwelyd i wersi ar ddiwedd yr arholiad. Gydag arholiadau’r pnawn yn dechrau am 1pm, bydd trefniadau i flwyddyn 10 gael cinio cynnar ar ddiwrnod arholiad, os oes arholiad ganddynt yn y pnawn.

Trefniadau Blwyddyn 11

Bydd gan flwyddyn 11 wersi a sesiynau adolygu reit tan yr arholiadau. Unwaith i’r arholiadau ddechrau ar 9 Mai, bydd disgyblion yn rhydd i astudio gartref o 9 Mai ymlaen, gan fynychu’r ysgol yn brydlon i sefyll eu harholiadau.

Ffarwelio

Ar ddydd Gwener 3 Mai, bydd disgyblion blwyddyn 11 yn cael eu diwrnod ffarwelio. Byddant yn yr ysgol tan 10:50am, sef diwedd gwers 2. Wedi hynny, byddant yn cerdded lawr i Glwb Rygbi St Peter’s i gael bwyd a gemau – Mae Miss Yapp wedi bod wrthi’n brysur yn trefnu lluniaeth a llawenydd. Byddant yn gorffen am 2:30pm yn St Peter’s. Bydd disgyblion sydd angen dal bws ysgol yn cerdded nôl lan i’r ysgol gyda’r staff er mwyn bod yno erbyn 3pm. Bydd dewis i ddisgyblion gerdded adref yn uniongyrchol o St Peter’s neu gael lifft oddi yno.

Sesiynau adolygu

Mae cyfnod arholiadau bl 11 a’u “study leave” yn dechrau ar 9 Mai. Bydd sesiynau adolygu a gwersi’n parhau ar y 7fed a’r 8fed i bawb, cyn i’r arholiadau ddechrau ar y 9fed. Bydd arholiad Rhifedd gan rai disgyblion ar y 9fed (y mwyafrif wedi cwblhau hwn ym mis Tachwedd) ac yna mae Drama yn y pnawn. Ar y 10fed, bydd arholiad Gwyddoniaeth gan bawb, ac yna Almaeneg i rai yn y pnawn. Yr wythnos ganlynol, bydd llu o arholiadau gwahanol, a bydd hynny’n parhau tan ar ôl y Sulgwyn.

Cyfle olaf

Wrth ddychwelyd ar ôl y Pasg, dyma’r cyfle olaf i ddisgyblion ddefnyddio arbenigedd pwnc eu hathrawon wrth baratoi ar gyfer yr arholiadau. Mae cnewyllyn bach o ddisgyblion yn parhau i wastraffu amser yn hytrach na bwrw ati gyda’u gwaith – dyma’r cyfle olaf i baratoi. Diolch i chi fel rhieni am eich cefnogaeth i’r ysgol wrth i ni geisio sicrhau’r gorau ar gyfer eich plant. Yn ddibynnol ar opsiynau, mae gan lawer o ddisgyblion dros 20 o arholiadau – mae tipyn o waith i’w wneud.

Arholiadau Llafar a Pherfformio

Cynhelir cyfres o arholiadau llafar TGAU yn y ffenest arferol rhwng y Pasg a’r arholiadau ysgrifenedig. Sicrhewch fod eich plentyn wedi adolygu, ac yn bresennol ac yn brydlon ar y diwrnod. Dyddiadau CBAC yw’r rhain, felly nid oes modd eu newid:

12 Ebrill – TGAU Drama – arholiad perfformio
19 Ebrill – TGAU Cymraeg Llên – arholiad llafar Llunyddiaeth – trafod Y Gwyll
25 Ebrill – TGAU Almaeneg – arholiad llafar
26 Ebrill – TGAU Almaeneg – arholiad llafar
2 Mai – TGAU Ffrangeg – arholiad llafar

Trefniadau’r Chweched

Mae amserlenni arholiadau’r Chweched wedi cael eu dosbarthu, felly os nad yw myfyrwyr wedi’u derbyn eisoes, maent ar gael i’w casglu gan Mrs Rhys Roberts, sef Anogwr Dysgu’r Chweched, yn syth wedi’r gwyliau. Rydyn ni’n darparu dau gopi o’r amserlen, un i’r myfyrwyr ac un i rieni / gwarcheidwaid. Mae’n bwysig fod myfyrwyr yn gwirio’u hamserlenni yn fanwl gan sicrhau bod pob uned ar gyfer pob pwnc yno. Os oes problem, mae angen iddynt gysylltu â Miss Lindsay Lewis, ein Swyddog Arholiadau yn syth. 

Arholiadau Blwyddyn 12

Bydd bl 12 yn gorffen gwersi’n ffurfiol ar 10 Mai er mwyn sefyll eu harholiadau. Dymunwn yn dda i bob un, ac os oes angen cymorth yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn eu hannog i gysylltu â’u hathrawon pwnc neu dîm y Chweched. Bydd bl 12 yn dychwelyd yn llawn amser i wersi wedi’r arholiadau ar 10 Mehefin er mwyn cychwyn ar gyrsiau bl 13 a chychwyn ar y broses UCAS. 

Arholiadau Blwyddyn 13

Bydd gwersi olaf bl 13 yn digwydd ar ddydd Iau 16 Mai, a byddwn yn ffarwelio’n ffurfiol â nhw ar ddydd Gwener 17 Mai. Mae bl 13 wedi bod yn griw hyfryd o ddisgyblion ers bl 7 a bydd colled fawr ar eu holau yma ym Mro Edern. Ar y dydd Gwener bydd gwasanaeth ffarwelio yn yr ysgol cyn i griw o staff a myfyrwyr deithio i Pizza Express, Bae Caerdydd am ginio. Mae ffurflen archebu bwyd ar e-bost i fyfyrwyr a gofynnwn am daliadau’r archeb cyn gynted â phosib ar ParentPay, os gwelwch yn dda. Bydd myfyrwyr yn rhydd i barhau eu dathliadau o Fae Caerdydd. Mae amseroedd pendol y diwrnod i’w cadarnhau. Mae ambell i fyfyriwr bl 13 yn ail-sefyll arholiad ar y bore hwnnw, felly byddwn yn cychwyn y gwasanaeth ffarwelio wedi’r arholiad, er tegwch i bawb.

Ffair UCAS – Blwyddyn 12

Ar ddydd Llun 22 Ebrill bydd myfyrwyr bl 12 yn mynychu Ffair UCAS yn yr ICC, sef y ganolfan fawr o dan y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Gofynnwn i holl fyfyrwyr bl 12 fynychu’r digwyddiad gan fod y mwyafrif helaeth o brifysgolion ledled ynysoedd Prydain yno, yn ogystal a rai darparwyr eraill, felly mae’n gyfle euraidd i gael gwybodaeth er mwyn ystyried eu dyfodol wedi’u hamser ym Mro Edern. Mae hawl gan fyfyrwyr i wisgo’u dillad eu hunain a bydd angen cwrdd yn Lolfa’r Chweched yn brydlon am 8:30am.

Profiad Gwaith – Blwyddyn 12

Mae gan fl 12 wythnos ddynodedig ar y calendr i gwblhau profiad gwaith. Bydd pawb o fl 12 ar brofiad gwaith yr un wythnos. Y dyddiadau yw wythnos olaf tymor yr haf (15/7/24-19/7/24). Mae angen i fyfyrwyr drefnu’u lleoliad profiad gwaith eu hunain a nodi manylion y lleoliad ar Google Form sydd ar e-bost i fyfyrwyr gan Miss Land. Mae tîm y Chweched yn edrych ymlaen at ymweld â chymaint â phosib o fyfyrwyr ar leoliad yn ystod yr wythnos. Os oes anhawster yn darganfod lleoliad addas, mae angen crybwyll hynny wrth Mrs Rhys Roberts cyn gynted ag y bo modd.

Taliadau’r Prom – Blwyddyn 13

Cynhelir Prom Chweched 2024 i fl 13 a staff ar nos Sadwrn 29 Mehefin yng ngwesty’r Leonardo yng nghanol y dref (yr hen Park Hotel, mewn oes a fu). Diolch i’r prif ddisgyblion a myfyrwyr y Chweched sydd wrthi’n trefnu. Mae taliadau ar gyfer y noson ar agor ar ParentPay, gyda manylion yno, i fyfyrwyr a staff sydd yn dymuno mynychu’r noson ond sydd heb dalu eto. Mae angen talu cyn gynted ag y bo modd, er mwyn i ni dalu’r gwesty.

Asesiadau Personol Bl 7, 8 a 9

Cynhelir Asesiadau Personol bl 7, 8 a 9 yn ail a thrydedd wythnos y tymor newydd ar ôl y Pasg. Bydd y disgyblion yn cwblhau’r asesiadau ar eu Chromebooks o dan amodau arholiad yn y Neuadd Chwaraeon neu yn y Caban. Mae’r rhain yn ddilyniant o’r profion cenedlaethol gafodd eich plentyn yn flynyddol yn yr ysgol gynradd.

Bydd disgwyl i’ch plentyn ddod i’r ysgol gyda Chromebook sydd wedi’i wefru’n llawn, fel ar bob diwrnod arall. Bydd hefyd angen cyfrifiannell a chlustffonau (sy’n ffitio yn y Chromebook) ar gyfer yr asesiad Rhifedd Rhesymu. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â threfnu unrhyw apwyntiad neu wyliau ar gyfer eich plentyn gan fod y dyddiad wedi bod ar galendr yr ysgol ers haf diwethaf, ac mae’r rhain yn asesiadau cenedlaethol pwysig. Os oes problem gyda Chromebook eich plentyn, mae angen dweud wrth y tiwtor dosbarth ar frys er mwyn i ni geisio datrys y sefyllfa. 

Mae 4 asesiad i bob disgybl:

Cymraeg – Darllen
Saesneg – Darllen
Rhifedd – Gweithdrefnol
Rhifedd – Rhesymu

Dyma’r amserlen:

Asesiadau Pwnc Bl 7 ac 8

Hefyd, mae asesiadau pwnc yn cael eu cynnal yr un pryd â’r Asesiadau Personol, mewn bloc o dair wythnos ar gyfer bl 7 ac 8. Mae’r rhain hefyd wedi bod ar y calendr ers blog yr haf diwethaf.

Er mwyn i’ch plentyn ddechrau paratoi ar gyfer yr asesiadau, dyma fanylion gan athrawon y gwahanol bynciau am beth sydd angen adolygu. Bydd amserlen yr asesiadau i ddilyn, ond byddant yn digwydd mewn gwersi, ac yn yr ystafell ddosbarth arferol, yn wythnos 2, 3 a 4 y tymor newydd ar ôl y Pasg.

Mae’r holl wybodaeth am y pynciau sy’n cynnal asesiadau yn y ddogfen hon. Os nad oes gwybodaeth, does dim asesiad yn y pwnc:

Manylion Asesiadau Bl 7 ac 8 a Rhestr Adolygu

Taith Sgïo Kitzbühel

Mae criw o ddisgyblion a staff wedi mynd i Kitzbühel, Awstria i sgïo yn ystod wythnos gyntaf gwyliau’r Pasg, a dymunwn bob hwyl iddynt ar y llethrau. Disgwylir iddynt gyrraedd yn ôl ym Mro Edern tua 6pm ar ddydd Gwener 29 Mawrth, sef Gŵyl y Banc Gwener y Groglith. Bydd staff yn gofyn i’r disgyblion gysylltu’n uniongyrchol i’ch diweddaru gydag union amser cyrraedd, yn dibynnu ar draffig.

Dyma’r olygfa o’r gwesty ar y diwrnod cyntaf:

Teithiau Cyfnewid

Diolch yn fawr iawn i’r teuluoedd wnaeth letya disgyblion o Nantes yn ystod ein cyfnewid diweddaraf ym mis Chwefror. Roedd ein cyfeillion o Lydaw wedi cael modd i fyw yng Nghaerdydd. Diolch i chi am eich caredigrwydd tuag atynt. Mawr yw’r edrych ymlaen at ddychwelyd i aros gyda’n partneriaid cyfnewid ym mis Mehefin. Bydd ein disgyblion yn gadael Caerdydd ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin ac yn dychwelyd y dydd Sadwrn canlynol, sef 22 Mehefin.

Yn 2025, taith gyfnewid yr Adran ITM yw’r daith i Grünstadt yn yr Almaen, am ein bod yn trefnu Grünstadt a Nantes am yn ail flwyddyn. Bydd y daith hon ar agor i’r disgyblion sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 7 ac 8, pan fyddan nhw ym mlwyddyn 8 a 9. Disgwylir yr Almaenwyr yng ngwanwyn 2025 a byddwn yn dychwelyd i Grünstadt yn haf 2025. Manylion i ddilyn erbyn diwedd tymor yr haf, ond digon o gyfle i chi ystyried a dechrau cynilo.

Taith Glan-llyn

Taith arall sydd ar y gweill ar gyfer disgyblion presennol blwyddyn 7 yw’r daith i Wersyll yr Urdd Glan-llyn ym mis Hydref, pan fyddan nhw ym mlwyddyn 8. Mae hon yn daith flynyddol i fwynhau holl weithgarwch Glan-llyn ac ymweld â Thryweryn. Bydd manylion llawn am y daith yn cael eu cyhoeddi i ddisgyblion yn hwyrach yn y tymor. Unwaith eto, cyfle i chi ystyried a dechrau cynilo.

Taith Real Madrid

Cafodd 70 o ddisgyblion bl 8 i fl 11 fodd i fyw yn ymweld â Madrid gyda’r Adran Add Gorff dros hanner tymor Chwefror. Cawsant ddigon o gyfle i hyfforddi, ymweld â chyfleusterau’r clwb a gweld gêm yn stadiwm y Bernabéu, pan enillodd Real Madrid 4-0 yn erbyn Girona. Tipyn o gêm a digon o goliau!

Taith Berlin

Yn yr un modd, cafodd disgyblion bl 10 ac 11 Almaeneg TGAU wythnos fythgofiadwy yn Berlin cyn dechrau’r tymor. Llwyddwyd i ymweld â llawer o fannau mwyaf enwog y ddinas anhygoel hon a chael digon o gyfle i ymarfer siarad Almaeneg. Cawson ni hyd yn oed ychydig o eira! Diolch i’r criw am fod mor hwyliog ac mor frwdfrydig ar hyd yr wythnos.

Newyddion yr Adran DT

Mae tymor Fformiwla 1 ar gyfer ysgolion wedi golygu llawer o fwrlwm unwaith eto yn y Bloc Technoleg. Eleni roedd gennym bum tîm yn cystadlu:

Dosbarth Mynediad – Rheolaeth o fl 9 ac 11 – Jack, Liv, Teague & Bella 

Dosbarth Datblygu – Mach3 o fl 10 – Taylor, Ifan a Tegid

Dosbarth Datblygu – Zeus o fl 9 – Eiriona, Mille, Meg, Lily & V

Dosbarth Pro – Parabolica o fl 10 – Gwen, Carys & Nia 

Dosbarth Pro – Hypernova – Chweched – Carys, Catrin, Pacha, Rhys, Mathew & Alffi

Rownd Cymru

Cynhaliwyd Rownd Cymru yn Sain Ffagan gyda phawb yn cystadlu’n wych, a’r timau’n llwyddo i ennill 3 allan o’r 4 lle yn rownd y Deyrnas Unedig. Roedd ymdrech Parabolica, Hypernova a Zeus eleni’n wych gan gasglu’r gwobrau canlynol:

Zeus –  2il yn ne Cymru Dosbarth Datblygu

Parabolica – Cydradd 1af yn ne Cymru Dosbarth Pro

Parabolica –  Ennill Gwobr Nawdd a Marchnata De Cymru

Hypernova – Ennill Car gyda’r Beirianneg Orau

Hypernova – Ennill Car Cyflymaf y Dosbarth Pro

Hypernova – Cydradd 1af yn ne Cymru Dosbarth Pro

Rownd y Deyrnas Unedig

Roedd y rownd derfynol yn Rotherham yng Nghanolfan Magna ar 13 a 14 Mawrth lle roedd y 60 tîm gorau ledled ynysoedd Prydain yn cystadlu am le yn rownd y Byd. Darlledwyd y ddwy rownd yn fyw ar YouTube, gan gynnwys darlledu’r rasio a’r gwobrwyo. Roedd pob un o’n disgyblion yn anhygoel, yn cystadlu’n frwd gyda gwên ar eu hwynebau. Llongyfarchiadau hefyd i Chloe a Bella a gafodd eu dewis i helpu rhedeg y gystadleuaeth a beirniadu eleni. Tipyn o gamp!

Rydym yn dal i aros am y canlyniadau llawn, ond yn ystod y seremoni gwobrwyo …

Hypernova –  enwebiad am Wobr Rheoli Prosiect 

Hypernova –  Ennill gwobr Nawdd & Marchnata’r Deyrnas Unedig 2024

Hypernova – Pencampwyr Cymru 2024

Hypernova – Ennill lle yn rownd y Byd 2024!

Rydym yn aros i glywed am leoliad Rowndiau Terfynol y Byd 2024, ond maen nhw’n debygol o fod yn bell i ffwrdd, ac yn annhebygol o fod yn Ewrop. Mae disgyblion Hypernova wedi bod yn cystadlu’n ddiwyd ers pedair blynedd ac maen nhw wedi cael eu haeddiant o’r diwedd. Pob clod iddyn nhw am ddyfalbarhau dros gyfnod hir o amser a diolch unwaith eto i Mr Dewi Thomas am barhau i fod yn gefn iddyn nhw. Byddai tîm Hypernova’n gwerthfawrogi unrhyw arweiniad posibl am nawdd neu gyfleoedd i godi arian. Os ydych chi’n bersonol, neu unrhyw fusnes yr ydych yn gysylltiedig â nhw’n gallu helpu mewn unrhyw ffordd cysylltwch â Mr Thomas ar ei gyfeiriad e-bost newydd sef Dewi.Thomas@broedern.cymru

Os hoffech weld y disgyblion wrthi’n cystadlu gyda’u ceir Fformiwla 1, yna mae’r cwbl ar YouTube. Gweler y 3 fideo isod.

Diwrnod 1:

Gellir gweld y timau’n cystadlu ar yr adegau hyn ar ddiwrnod 1:

Zeus 01:50:49

Parabolica 06:04:00

Hypernova 06:18:00

Diwrnod 2:

Gellir gweld y timau’n cystadlu ar yr adegau hyn ar ddiwrnod 2:

Hypernova 01:13:38

Parabolica 01:23:44

Zeus 4:41:53

Seremoni Wobrwyo

Symudwch i’r amseroedd priodol i weld y canlynol yn y Seremoni Wobrwyo:

Hypernova 18:35

Hypernova Cyflwyniad i Rownd y Byd 36:00

Hypernova 43:38

Gwobr EESW

Y tu hwnt i’r Fformiwla 1, llongyfarchiadau mawr hefyd i’r tîm a enillodd wobr yr wythnos hon am y Gwerthfawrogiad Gorau o Faterion Diogelwch yn y digwyddiad mawr gydag EESW yn Arena Abertawe. Roedd llu o ysgolion yno’n cystadlu, felly roedd hwn yn dipyn o beth.

Annie

Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion a fu’n brysur yn perfformio ein sioe gerdd Annie yn ddiweddar. Cafwyd matinée i ysgolion cynradd y Clwstwr ac yna perfformiadau dros dair noson yn neuadd yr ysgol. Cafwyd perfformiadau gwych ar hyd yr wythnos gyda’r prif gymeriadau, y corws a’r band yn rhoi modd i fyw i bawb. Diolch yn fawr i’r holl staff o fu ynghlwm wrth y perfformiad, yn enwedig Mrs Awen Thomas, Miss Jo Griffiths a Miss Bethany Randall.

Eisteddfod yr Urdd

Cafwyd y cystadlu sirol brwdfrydig a safonol arferol yng Nghaerdydd a’r Fro unwaith eto eleni. Aeth nifer o ddisgyblion i’r Barri i gystadlu yn Neuadd y Memo yr wythnos ar ôl Annie, yn unigolion ac yn grwpiau. Bydd Alys Jones o flwyddyn 12 yn mynd ymlaen i gynrychioli Bro Edern yn y Genedlaethol gan iddi fod yn fuddugol ar y Perfformiad Theatrig Unigol o dan 19 oed. Llongyfarchiadau mawr iddi. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn perfformio ym Meifod.

Dydd Miwsig Cymru

Aeth disgyblion bl 10 ac 11 draw i Ysgol Gynradd Pentrebane i berfformio caneuon poblogaidd i’r ysgol gyfan i ddathlu Dydd Miwsig Cymru – Iolo Williams, Amelia Chadd, Nel Davidson a Ruby Warren-Dimech. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr a daeth y perfformiad i ben gyda ‘Yma o Hyd’, a’r holl ddisgyblion yn cyd-ganu. Hyfryd gweld cynifer o ddisgyblion di-Gymraeg yn morio canu wrth i’n disgyblion ni eu harwain a’u hyfforddi.

Newyddion y Cyfeillion

Mae’r Cyfeillion wedi bod wrthi’n brysur, fel arfer, yn codi arian ac yn helpu’r ysgol. Maen nhw wedi codi dros £1,000 yn ddiweddar ar gyfer yr ysgol. Mae’u presenoldeb yn ein nosweithiau rhieni ar hyd y flwyddyn wedi cael ei groesawu’n fawr ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth hollbwysig i deuluoedd yr ysgol gyda’r Swap Siop. Diolch hefyd iddynt am eu gwaith drwy wythnos Annie – codwyd llawer o arian ar hyd y tair noson, a diolch iddynt am ddarparu lluniaeth yn yr Eisteddfod Gylch diweddar ar gyfer rhieni cynradd y Clwstwr.

Dyddiadau’r Swap Siop nesaf:

Nos Fercher 10 Ebrill
Nos Fercher 1 Mai

Dyddiad y cyfarfod nesaf:

Nos Iau 16 Mai 6pm yn yr ysgol.
Cynhelir y cyfarfod yr un noson â noson rieni blwyddyn 7, yn y gobaith o ddenu rhai o rieni blwyddyn 7 i ymuno â’r Cyfeillion. Mae nifer o weithgareddau ar y gweill a chriw profiadol gennym i arwain rhieni newydd blwyddyn 7 drwy’r flwyddyn i ddod. Croeso i rieni disgyblion o unrhyw flwyddyn, wrth gwrs!

Cysylltwch â cyfeillionbe@gmail.com os oes gennych unrhyw syniadau neu ymholiadau.

Noson Ddiwylliannol

Dyddiad i’r dyddiadur ar gyfer holl ysgolion y Clwstwr – nos Iau 4 Gorffennaf. Yn sgil llwyddiant mawr ein noson ddiwylliannol gyntaf, byddwn yn agor ein drysau i’r Clwstwr unwaith eto eleni. Bydd perfformiadau, arddangosfeydd a lluniaeth ar gael drwy’r nos. Rydyn ni eisoes wedi trefnu mwy o bobl i redeg y barbeciw eleni!

Tafwyl

Mae Menter Caerdydd wedi cyhoeddi dyddiadau Tafwyl ar gyfer eleni, sef dydd Sadwrn a dydd Sul 13 a 14 Gorffennaf ym Mharc Bute, y tu ôl i’r castell. Fel pob blwyddyn, rydyn ni’n disgwyl gweld holl ddisgyblion Bro Edern yno’n mwynhau ar ryw bwynt yn ystod y penwythnos gyda’u ffrindiau. Mae Tafwyl yn ŵyl ffantastig ar gyfer pobl ifainc, ac rydyn ni’n awyddus i weld ein holl ddisgyblion yn elwa o fwynhau’r ŵyl hon, sydd am ddim i bawb. Bydd Dadleoli, gyda 3 ohonynt yn ddisgyblion Bro Edern yn perfformio ar y prif lwyfan.

Yn ôl yr arfer, bydd blwyddyn 9 yn derbyn gwaith yn seiliedig ar eu hymweliad â Tafwyl. Rhowch y dyddiad yn y dyddiadur nawr!

Dyddiadau Pwysig

Dyma ein holl ddyddiadau pwysig i chi roi yn eich calendr. Mae nifer ohonynt wedi bod mewn blogiau blaenorol, ond mae rhai dyddiadau newydd wedi cael eu hychwanegu at y rhestr.

Noder: Does dim diwrnod HMS rhwng nawr a diwedd y tymor, ag eithrio’r dydd Llun olaf un sef 22 Gorffennaf.

  • 23 Mawrth – 7 Ebrill – Gwyliau’r Pasg
  • 8 Ebrill – Pawb yn dychwelyd ar ôl y Pasg
  • 11 Ebrill – Arholiad Ffotograffiaeth bl 13
  • 12 Ebrill – Arholiad Perfformio TGAU Drama
  • 16 Ebrill – Sevens yr Urdd – Bechgyn bl 10 // Merched bl 10 ac 11
  • 17 Ebrill – Sevens yr Urdd – Bechgyn bl 9 ac 11
  • 18 Ebrill – Sevens yr Urdd Bechgyn bl 8 // Merched bl 8 a 9
  • 18 Ebrill – Arholiad Ffotograffiaeth bl 13
  • 19 Ebrill – Arholiad Llafar Llunyddiaeth Set 1,2,3 Cymraeg
  • 19 Ebrill – Sevens yr Urdd Bechgyn a Merched bl 7
  • 22 Ebrill – Ffair UCAS bl 12
  • 22 Ebrill – 3 Mai – Cyfnod Asesiadau bl 7 ac 8 ac Asesiadau Personol bl 7,8,9
  • 25 a 26 Ebrill – Llafar TGAU Almaeneg
  • 30 Ebrill – Arholiad Perfformio Drama bl 13
  • 2 Mai – TGAU Llafar Ffrangeg // Etholiadau yn yr ystafell staff
  • 3 Mai – Diwrnod Ffarwelio swyddogol bl 11 – yn yr ysgol, yna Clwb Rygbi St Peter’s
  • 6 Mai – Gŵyl y Banc
  • 7 ac 8 Mai – Adolygu TGAU yn yr ysgol i fl 11
  • 9 Mai – Diwrnod cyntaf yr arholiadau TGAU – “study leave” yn dechrau i flwyddyn 11
  • 10 Mai – Diwrnod olaf gwersi bl 12
  • 16 Mai – Diwrnod olaf gwersi bl 13
  • 16 Mai – Noson Rieni Bl 7
  • 17 Mai – Diwrnod Ffarwelio swyddogol bl 13
  • 25 Mai – 2 Mehefin – Hanner Tymor Sulgwyn / Eisteddfod yr Urdd
  • 10 Mehefin – bl 12 yn dychwelyd i wersi
  • 15-22 Mehefin – Cyfnewid Nantes – teithio i Nantes
  • 18 Mehefin – Diwrnod Prifysgolion ar gyfer bl 12
  • 24 Mehefin – Gweithdy Rhydygrawnt (Oxbridge) ar gyfer bl 11 a 12
  • 24 Mehefin – 2 Gorffennaf – Bl 10: Llafar Unigol Saesneg
  • 25 Mehefin – Blasu Gwersi’r Chweched ar gyfer bl 11
  • 26 Mehefin – Blasu Gwersi Partneriaeth ar gyfer bl 11
  • 27 Mehefin – Diwrnod Pontio 1 ar gyfer bl 6
  • 27 Mehefin – Cyfarfod Pontio ar gyfer rhieni bl 6 yn y neuadd am 6pm
  • 28 Mehefin – Diwrnod Pontio 2 ar gyfer bl 6
  • 4 Gorffennaf – Noson Ddiwylliannol y Clwstwr
  • 13 a 14 Gorffennaf – Tafwyl – PAWB i fynychu – tasgau hefyd ar gyfer bl 9
  • 15-19 Gorffennaf – Profiad Gwaith bl 12
  • 19 Gorffennaf – Diwedd y Flwyddyn
  • 22 Gorffennaf – Diwrnod HMS, dim ysgol
  • 15 Awst – Diwrnod canlyniadau’r Chweched
  • 22 Awst – Diwrnod canlyniadau TGAU


2024-2025

Sgerbwd o ddyddiadau hyd yma:

  • 2 Medi – Diwrnod HMS
  • 3 Medi – Diwrnod HMS
  • 4 Medi – Blwyddyn 7 a 12 yn unig yn dychwelyd i’r ysgol
  • 5 Medi – Pawb arall yn dychwelyd i’r ysgol
  • 26 Hydref – 3 Tachwedd – Hanner Tymor yr Hydref
  • 20 Rhagfyr – Diwedd Tymor cyn y Nadolig
  • 3 Mawrth 2025 – Diwrnod HMS Cydag

Bydd manylion llawnach a mwy o ddyddiadau i ddilyn mewn blogiau’n hwyrach yn y flwyddyn.

Yr hyn sy’n weddill yw dymuno gwyliau dedwydd i chi fel teuluoedd Bro Edern, boed yn dathlu’r Pasg, yn ymprydio ar gyfer Ramadan ac yn edrych ymlaen at Eid, yn gweithio drwy’r adeg neu jyst yn ymlacio a bwyta siocled. Cymerwch ofal – fe welwn ni chi yn y tymor newydd, gan obeithio y bydd y tywydd yn brafio rywfaint.

Pob dymuniad da

Ceri Anwen James
Dirprwy Bennaeth

Cyhoeddwyd gan Ceri Anwen James

Athrawes Ieithoedd Modern sy'n Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Gadael sylw