Research Ed Cymru – yn y Gymraeg

Ar drothwy Dydd Gwyl Dewi, dyma ryw 350 o athrawon o ysgolion ledled Cymru a’r tu hwnt yn mentro’r tywydd garw i Cardiff High er mwyn treulio’u dydd Sadwrn yn y gynhadledd #rEDCymru gyntaf. Mae’r cynadleddau hyn yn bodoli ers 2013 yn Lloegr, ac felly roedd yn hen bryd i athrawon Cymru gael bod yn rhan o’r ymchwil a’r doethinebu. Roedd yn ddiwrnod amserol iawn, wrth i ysgolion Cymru wynebu cymaint o benderfyniadau pwysig am eu cwricwlwm, wedi cyhoeddiad swyddogol y fersiwn derfynol o’r Cwricwlwm i Gymru ar 28 Ionawr eleni. A chwarae teg i Cardiff High, roedd tipyn o stamp Cymreig ar yr holl beth – digon o gennin Pedr i gadw ID Hooson a Wordsworth ill dau’n hapus, staff a disgyblion tywys i gyd mewn topiau coch llachar a digon o bice ar y maen (gan gynnwys rhai figan), i fodloni pawb. Ac ar ddiwrnod ble roedd rhybuddion tywydd ledled Cymru, a Llyn y Rhath gerllaw’n edrych yn beryglus o uchel, pa well cân na Patio Song y Gorkys i groesawu pawb i’r neuadd. Ie wir, y geiriau olaf glywson ni cyn i’r siaradwyr gwadd ein hannerch yn y neuadd ben bore oedd “dal fy llaw, mae’n bwrw glaw”. Dewis da.

Mynychodd nifer o athrawon Clwstwr Bro Edern y diwrnod arbennig hwn, o’r cynradd a’r uwchradd, ac aethon ni i gyd mewn gwahanol gyfeiriadau yn ystod y dydd. Dyma fy argraffiadau i. Yn y sesiwn gyntaf, arhosodd y mwyafrif i glywed Tom Sherrington @teacherhead yn sôn am egwyddorion Rosenshine. Es i ddim, am fy mod wedi clywed y sesiwn ardderchog hon yn #rEDSurrey ym mis Hydref, ac mae egwyddorion Rosenshine yn un o flaenoriaethau dysgu ac addysgu Bro Edern eleni. Rydyn ni wedi edrych yn benodol ar wirio dealltwriaeth ac adalw gwybodaeth, ac mae adrannau wedi bod yn gweithio ar wau’r egwyddorion hyn i’w gwersi ar hyd y flwyddyn. Synnwyr cyffredin yw llawer o egwyddorion Barak Rosenshine, ond mae’n synnwyr cyffredin sy’n cael ei anwybyddu mewn gormod o gyfeiriadau! Rhag ofn nad ydych cyn gyfarwydd gyda’r egwyddorion gwreiddiol, ac ymdriniaeth Tom Sherrington ohonynt, dyma rai lincs a rannwyd gyda staff Bro Edern a allai fod yn ddefnyddiol:

Felly ar gyfer fy sesiwn gyntaf es i i weld Robert Massey @DoctorMassey a’i sesiwn Ditch “Gifted and Talented” – Help make all your students Expert Learners. Dyma sesiwn hamddenol braf gyda nifer o ystyriaethau ymarferol ar gyfer athrawon uwchradd. Rhai o’i brif negeseuon oedd nad yw labelu disgyblion yn ddefnyddiol, ac y gall ysgolion wneud disgyblion o bob gallu’n fwy galluog drwy roi iddynt y strategaethau i fod yn ddysgwyr gweithredol, pwrpasol, gydag amrywiaeth o sgiliau i’w helpu gyda’u hastudiaethau, ac yn hwyrach mewn bywyd. Yr unig le all hyn ddigwydd yw gyda ni, eu hathrawon, yn yr ysgol, yn y gwersi, yn enwedig ar gyfer ein disgyblion mwyaf gwan, felly mae angen mynd i’r afael â’r mater tra bod y disgyblion yn ein cwmni. Cwestiwn difyr fel rhan o’r sesiwn oedd pan holodd ef bawb am sut fyddai eu gwers ddelfrydol yn edrych, cwestiwn bron mor benagored â’r un am beth sy’n mynd i fynd yn ein cwricwlwm newydd. Roedd yn anodd dechrau meddwl am ateb. Rhywbeth i’w ystyried.

Wrth drafod modelu, soniodd am y patrwm:

Adults lead – Students learn – Students lead

a bod hwn yn arwain at ddisgyblion yn dechrau meistroli eu gwaith. Soniodd Robert Massey hefyd am yr angen i ymarfer y rhannau anodd o unrhyw ddarn o waith, neu unrhyw dasg, mewn ffordd bwrpasol. Ei eiriau doeth ond amlwg oedd:

Practice needs to be learnt

ond bod hwn yn gymaint o ymdrech i gymaint o ddisgyblion, fel nad ydynt yn ei wneud. Wrth sôn am adolygu, soniodd am rôl bwysig strategaethau megis adalw a gadael bylchau, a bod hwn yn ystyriaeth bwysig o ran iechyd a lles disgyblion – mae’r ymchwil i gyd yn dangos mai dyma’r ffordd orau o adolygu, felly mae’n torri ar y stress a’r pwysau, a dylai fod o gymorth mawr i les disgyblion.

Y sesiwn nesaf es i iddi oedd sesiwn Chris Moyse @ChrisMoyse yn dwyn y teitl Growing Great Teachers #ImproveNotProve. Soniodd yn fanwl am ei waith yn y Bridgwater and Taunton College Trust a’r ffordd y maen nhw wedi troi eu holl drefniadau Rheoli Perfformiad ar eu pen. Ei gwestiwn cyntaf oedd:

Beth yw pwynt Rheoli Perfformiad?

Fel datganoli, mae’n broses, nid digwyddiad. Ei brif bwyntiau oedd nad oes pwynt edrych nôl, dim ond edrych ymlaen, a bo’r syniad fod Rheoli Perfformiad yn “one size fits all” yn nonsens llwyr. Yn hytrach dylai ysgolion fynd i fodel “one size fits one” er mwyn sicrhau fod anghenion datblygiad proffesiynol pawb yn cael eu cwrdd mewn ffordd bwrpasol. Soniodd am arferion Rheoli Perfformiad llawer o gwmnïau mawr, a’r duedd ddiweddar i fynd i broses o hyfforddi a mentora parhaus yn hytrach na’r digwyddiad “Rheoli Perfformiad” artiffisial sydd mor gyffredin mewn cymaint o ysgolion. Petai athrawon yn ystyried newid un peth yn eu dysgu ac addysgu bob dydd, yna gallai hyn fod yn llawer mwy pwrpasol, yn fwy ymreolaethol ac yn cael llawer mwy o effaith na Rheoli Perfformiad yn y pen draw. Professional Growth Plan sydd gan yr athrawon dan ofal Chris Moyse, yn hytrach na Rheoli Perfformiad. Roedd yr holl broses yn swnio’n adeiladol ac yn werthfawr ac yn rhywbeth y dylai ysgolion Cymru ei ystyried o ddifrif.

Rheoli Perfformiad?

Tra fy mod yn sesiwn Chris Moyse, roedd Mary Myatt @MaryMyatt yn y neuadd yn sôn am adeiladu cwricwlwm. Roeddwn i, a nifer o bobl eraill a oedd yn bresennol, wedi ei chlywed yn y diwrnod cwrciwlwm yn Willows ym mis Hydref. Roedd ganddi gymaint o ystyriaethau call a chynhwysfawr fel rhan o’i sgwrs a gwn fod ei chynulleidfa heddiw wedi mwynhau a gwerthfawrogi ei sgwrs gymaint â wnaethom ni yn Willows.

Cyn cinio, es i i weld y ddau David, sef David Didau @DavidDidau a David Williams @davowillz yn sôn am How to make the Curriculum for Wales work. Roedd llawer o bobl yn awyddus i weld y sesiwn hon am nifer o resymau, ac roedd hynny wedi’i adlewyrchu yn y niferoedd yn y neuadd. Roeddwn i wedi gweld llawer o drydariadau negyddol David Didau am y Cwricwlwm i Gymru ar hyd yr amser ac felly’n chwilfrydig i weld beth fyddai e’n ei ddweud wyneb yn wyneb gyda chynulleidfa fyw yng Nghymru. Roedd paru’r ddau David yn syniad da, gyda David Williams, athro Saesneg uwchradd yn Nyffryn Aman, fel un sy’n gorfod rhoi’r cwricwlwm ar waith yn ei ysgol, yn cael y job o ffrwyno rhywfaint ar negyddiaeth David Didau.

Dechreuodd y sesiwn yn addawol, wrth i David Didau sôn am bwysigrwydd gwybodaeth:

All thought depends on knowledge. You can’t think about something you don’t know …

Wrth sôn am y 4 diben, nododd nad oedd dim o hyn yn bosibl heb wybodaeth sylfaenol yn y cefndir, ac wrth sôn am gwricwlwm eang a dwfn, gyda chynnydd pendant, unwaith eto ychwanegodd nad oedd hyn y bosibl heb wybodaeth. Wrth drafod sgiliau, cynigiodd hafaliad defnyddiol i athrawon Cymru wrth i ni gyd ddechrau ystyried cynnwys ein cwricwlwm a’n cynlluniau, rhywbeth y dylai pob ysgol ei ystyried, cyn neidio i osod sgiliau mewn gwactod, fel petaen nhw i fod i ddigwydd drwy hud a lledrith:

Sgil = Gwybodaeth + Ymarfer

Amen i hynny. Y gofid yw bod nifer o bobl yn dal i ystyried mai cwricwlwm sgiliau yw ein cwricwlwm newydd, pan nad yw hynny’n wir o gwbl.

Roedd David Didau’n honni ei fod wedi edrych yn fanwl ar agweddau o’r cwricwlwm newydd, yn eu plith y Camau Cynnydd ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Penderfynodd geisio tynnu un o’r Camau Cynnydd ar gyfer darllen yn rhacs, gan gwyno pa mor anelwig ac amhendant oedd y cwbl. Rhoddodd lun o’r Camau Cynnydd honedig anelwig ar y sgrîn.

David Didau a’r Camau Cynnydd ffug

Roedd yn cwyno am sawl peth, sef beth yn union yw “inference” a sut ellir ei ddysgu, heb sôn am gael cynnydd ynddo. Hefyd gofynnodd beth oedd ystyr “complex text”. Wn i ddim o ble ddaeth y Camau Cynnydd ar ei sgrîn, oherwydd nid ydynt yn cyfateb i’r hyn sy’n ymddangos yn y Cwricwlwm i Gymru o gwbl. Cymharwch y fersiwn Saesneg isod gyda’r fersiwn ar sgrîn David Didau:

Camau Cynnydd go iawn y Cwricwlwm i Gymru

Mae’r Camau Cynnydd go iawn yn llawer cliriach o ran beth sydd angen ei feistroli a sut y gallai cynnydd edrych rhwng tua 9 ac 16 oed. Mae athrawon ledled Cymru’n dysgu dibynadwyedd ffynonellau’n llwyddiannus ar gyfer y Bac, heb sôn am y sgil o ddarllen rhwng y llinellau mewn gwersi Cymraeg a Saesneg. Ydy, mae’n sgil anodd, ond yn un hanfodol yn yr oes sydd ohoni, felly mae’n mwy na haeddu ei le yn ein cwricwlwm newydd. Ymlaen â ni at ei gwestiwn am “complex texts”. Rwy’n deall ei bwynt: beth yw complex? Efallai na fydd fy nghomplex i fel eich complex chi, ond mae athrawon yn hen gyfarwydd â datrys y pethau hyn, yn union fel wnes i yn y flwyddyn honno pan oedd y fanyleb TGAU newydd yn dweud wrtha i fod angen “ystod eang o eirfa anturus”. Anturus?! Beth ar wyneb y ddaear oedd hwnna? Ond fe ddaethon ni i ben, ac fe wnaeth pawb gynnydd.

Dewisodd David Didau ddangos dyfyniad o Finnegans Wake gan James Joyce ar y sgrîn i geisio amlygu’r anhawster gyda dysgu “inference” ar lawr y dosbarth. Doedd dangos y dyfyniad hwn gan James Joyce, allan o’r hyn a honnir i fod yn un o’r darnau ffuglen mwyaf anodd yr iaith Saesneg, yn cyfrannu dim at y drafodaeth. Sut yn y byd allai hwn fod yn enghraifft dilys ar gyfer disgyblion ysgol mewn gwers Saesneg ar “inference”?

Roedd llawer o bobl wedi mynychu’r sesiwn hon, oherwydd roedd y teitl yn denu: How to make the Curriculum for Wales work, ond roedd cyfle wedi cael ei golli. Yn anffodus, aeth rhagfarn David Didau am y cwricwlwm yn drech nag ef. Cafodd David Williams, oedd yn cyd-gyflwyno gydag ef, hanner cyfle i sôn am waith ei adran gyda’r gwaith ar Myths and Legends, a buasai’r gynulleidfa’n sicr wedi hoffi clywed mwy am hyn. Hefyd buasem wedi hoffi clywed sut oedd gwaith ei Adran Saesneg yn cyd-blethu gyda Chymraeg ac Ieithoedd Rhyngwladol o dan ymbarel y maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Nyffryn Aman.

Ar ôl cinio, aeth nifer dda o bobl i weld sesiwn wych Damian Benney: Using desirable difficulties to make learning easier. Roeddwn i eisoes wedi gweld hwn ac wedi cael f’ysbrydoli’n llwyr gan y sesiwn yn #rEDSurrey. Mae adalw gwybodaeth yn ffocws gyda ni ym Mro Edern eleni ac yn sgil hyn roeddem ni wedi gwahodd Damian i gyflwyno i Glwstwr Bro Edern ddydd Llun diwethaf. Cafodd y staff fodd i fyw yn ymchwilio i’w graffiau cofio ac anghofio, ac maent wedi mapio’u tasgau adalw gwybodaeth yn erbyn y graffiau wrth flaengynllunio ar gyfer arholiadau’r haf.

Am fy mod eisoes wedi clywed Damian (ddwywaith!) yr wythnos hon, es i i weld John Tomsett @johntomsett yn siarad am waith ei ysgol, Huntingdon School yng Nghaerefrog, sy’n ysgol ymchwil. Roeddwn eisoes wedi’i glywed yn y diwrnod cwricwlwm yn Willows ym mis Hydref ac yn edrych ymlaen at ei glywed eto’n sôn gyda’r fath afiaith am ei ysgol. Roedd y cyflwyniad yn un ysbrydoledig, gan sôn am y diwylliant o ymchwil sy’n treiddio reit drwy’r ysgol, gyda phopeth yn anelu at yr un cyfeiriad: gwella dysgu ac addysgu, er mwyn rhoi gwell cyfleoedd i ddisgyblion lwyddo.

Soniodd am gamau’r flwyddyn, y dystiolaeth sydd ei angen, yr angen am gwestiwn ymchwil cul ei ffocws, sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar anghenion disgyblion ac enghreifftiodd hyn yn gelfydd. Roedd yn onest wrth gyfaddef nad oedd pob ymyrraeth o ganlyniad i brosiect ymchwil yn llwyddo, ond roedd yn amlwg fod yr hinsawdd o ymchwil a disgwyliadau uchel yn codi safonau yn yr ysgol. Y cwestiwn cyntaf gododd gen i, oedd amser ac arian – y ddau fwgan mawr mewn unrhyw ysgol. Cawsom yr holl atebion fel rhan o’r cyflwyniad:

Ar ddiwedd y flwyddyn, mae pob aelod o staff yn ei ysgol wedi cael amser ymchwil syfrdanol o hael, ond angenrheidiol, os ydych chi’n mynd i redeg prosiect llwyddiannus fel hyn:

Tipyn o her i unrhyw ysgol yng Nghymru yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni! Er gwaetha’r anobaith, ar yr un llaw, o ystyried yr anghenion amser i wneud rhywbeth tebyg i ysgol John Tomsett, roedd yn fraint cael bod yno’n gwrando, gan ystyried beth allai fod yn bosibl petai rhywbeth tebyg yn cael ei gyflwyno yng Nghymru.

Sesiwn ola’r dydd i fi oedd Jon Hutchinson @jon_hutchinson_ yn sôn am Five Best Bets to improve teaching and learning. Wrth sôn am gwisiau, ategodd bopeth ddywedodd Damien Benney wrth y clwstwr ddydd Llun, gan gynnwys pwysigrwydd bwlch amser a soniodd am wahanol ffyrdd o adalw gwybodaeth yn y cynradd. Diddorol oedd clywed bod ei ddisgyblion yn cael 2 gwis crynodol yn ystod y flwyddyn, sydd yn eu galluogi i adeiladu ar wybodaeth flaenorol. Mae hwn yn sicr yn rhywbeth sydd angen i ni ei drafod fel Clwstwr Bro Edern. Mae cwricwlwm ysgol Jon Hutchinson wedi’i adeiladu fesul cam ar wybdodaeth flaenorol ac yn anffodus nid oedd amser wedi caniatáu i ni glywed mwy am y ffordd y maen nhw’n trefnu gwybodaeth ac yn sicrhau dilyniant yn y cwricwlwm o flwyddyn i flwyddyn. Mae ei ysgol wedi adnabod yr angen am ddilyniant pendant er mwyn osgoi’r sefyllfa flaenorol lle roedd disgyblion yn astudio’r Llychlynwyr deirgwaith, mewn blynyddoedd gwahanol. Roedd hyn mor debyg i’r trafodaethau rydyn ni wedi’u cael yng Nghlwstwr Bro Edern (am y disgyblion yn astudio’r Tuduriaid deirgwaith!) ac roedd yn braf clywed yr un negeseuon o gyfeiriad arall.

Ar ddiwedd y dydd aethon ni nôl i’r neuadd lle cloriannodd Damien Benney’r diwrnod yn ddeheuig. Mynegodd yr hyn oedd ar feddyliau pawb ar ôl diwrnod difyr a dadlennol – sef bod #rEDCymru wedi bod yn amserol iawn wrth i ysgolion ledled Cymru ddechrau ystyried rhoi siap ar eu cwricwlwm. Mae’n hollbwysig fod ysgolion yn seilio’u penderfyniadau ar dystiolaeth ac ymchwil, yn hytrach na mympwy, a’r hyn maen nhw wastad wedi’i wneud o’r blaen.

Ambell beth i’w hystyried wrth symud ymlaen: gyda chynifer o Gymry Cymraeg ar hyd y lle, rwy’n siwr y buasai ambell sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg wedi denu. Ac am mai #rEDCymru oedd hwn, buasai wedi bod yn braf peidio gorfod clywed am raddau 9-1 ac Ofsted fel petaen nhw’n berthnasol i ni.

Fodd bynnag, llwyddiant ysgubol oedd y #rEDCymru cyntaf, ac er ei fod wedi’i gynnal ar ddiwrnod naid, gobeithio’n wir na fydd angen pedair blynedd ar gyfer yr un nesaf. Mae angen y trafodaethau hyn yn gyson yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn sicrhau fod ein Cwricwlwm i Gymru‘n codi safonau ac yn ysbrydoli disgyblion o Fôn i Fynwy.

Diolch i bawb a fu wrthi’n trefnu.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr un nesaf yn barod!

Cyhoeddwyd gan Ceri Anwen James

Athrawes Ieithoedd Modern sy'n Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: