Cultural Capital – Y Pethe?

Mae sawl dadl wedi bod yn cyniwair ar Twitter yn ddiweddar ynglyn â’r hyn a elwir yn Cultural Capital yn yr iaith fain. Mae’r ffaith nad oes term amlwg gyda ni yn y Gymraeg efallai’n dweud y cwbl. Ydyn ni erioed wedi poeni am y pethau hyn? Ydyn ni angen poeni am y pethau hyn? Wrth gwrs! Mae ‘Cyfalaf Diwylliannol‘ wedi cael ei awgrymu i mi fel term, ond rywsut dyw e ddim yn taro deuddeg. Efallai ei bod yn fater o amser, nes i’r term ennill ei blwyf. Mae’r cysyniad, os nad yr union derm ei hunan, wedi ymddangos er 1977 yn Ffrainc. Wrth gwrs, mae’r term Y Pethe yn perthyn i ni’r Cymry ers sbel cyn hynny, ond i mi, mae’r Pethe‘n cynrychioli rhywbeth ychydig yn wahanol, y traddodiadau diwylliannol Cymraeg eu hiaith (gwerinol o bosibl?) a’u gwerthoedd gorau. Beth bynnag am yr union derm, mae angen i Cultural Capital a’r cefnder Cymreig Y Pethe ymddangos ar yr agenda wrth i ysgolion fwrw ati i ddehongli’r Cwricwlwm i Gymru ac wynebu’r her o lenwi’r hyn sydd, i bob pwrpas, yn fframwaith gwag.

This image has an empty alt attribute; its file name is ramin-khatibi-dj1vml-rjku-unsplash.jpg
Fframwaith gwag y Cwricwlwm i Gymru – fel addurno a dodrefnu adeilad – llawer o benderfyniadau allweddol

Y gofid mawr, sydd wedi cael ei fynegi sawl gwaith gan wahanol bobl, yw’r posibilrwydd (y tebygrwydd, y sicrwydd) o wahanol ddehongliadau ledled Cymru, yn arwain at ysgolion Cymru’n cynnig cwricwla hollol wahanol i’w dysgwyr. Y tebyg yw y bydd cwricwla gwahanol iawn yn cael eu dysgu mewn ysgolion lawr yr hewl o’i gilydd. Golyga hyn wahanol gyfoeth o Cultural Capital o ysgol i ysgol. Rydyn ni’n disgwyl, ac yn croesawu gwahaniaethau, ond mae gwahaniaeth o ran ansawdd darpariaeth yn broblem i’w hosgoi. Mae cyfrifoldeb enfawr ar ysgolion i wneud penderfyniadau call am yr hyn y dewisant ei ddysgu. Mae’r cynnwys a’r addysgeg a ddewisir yn fater o’r pwys eithaf. Pan glywais un ysgol ar Radio Cymru ar ddiwrnod lawnsio’r cwricwlwm yn brolio bod eu disgyblion blwyddyn 7 i gyd yn gwneud gwaith-grwp-trawsgwricwlaidd-thematig am zombies, roeddwn bron â chrio.

Yng Nghlwstwr Bro Edern rydyn ni wedi bod yn trafod hanfodion y cwricwlwm ers sbel tra’n darllen am y mater ac yn ceisio ymchwilio ymhellach. Yn sgil sgwrs â Gareth Rein @garein yn Ysgol Gynradd Joseff Sant ym Mhenarth, edrychon ni ar y gyfrol Cultural Literacy, cyfrol sydd wedi cael argraff ddofn ar addysg yr Unol Daleithiau.

This image has an empty alt attribute; its file name is screenshot-2020-01-26-at-22.30.27.png

Mae’r gyfrol hon, a chyfrol ddilynol gan yr un awdur, sef Why Knowledge Matters wedi gosod gwybodaeth, a’r angen am wybodaeth benodol, ar y map yn UDA. Yn y Cwricwlwm i Gymru mae gwybodaeth, wrth gwrs, yn rhan o’r ddarpariaeth ar gyfer ein disgyblion, law yn llaw â sgiliau a phrofiadau. Tra bo Hirsch wedi mynd ar ôl gwybodaeth, rwy’n credu fod athawon Cymru angen ystyried ein Drindod cwricwlaidd newydd: gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn yr un gwynt.

Ond efallai mai gwybodaeth yw’r ystyriaeth gyntaf? Neu sgiliau? Neu brofiadau? Neu’r tri ynghyd? Ta beth, mae un peth yn sicr, sef bod y trafodaethau ynglyn â gwybodaeth yn ein cwricwlwm yn faith ac yn codi o gwestiynau hollol sylfaenol. Dyma rai cwestiynau cychwynnol:

  • Beth yw gwybodaeth?
  • Beth yw gwybodaeth hanfodol?
  • Beth yw’r wybodaeth sy’n hanfodol i’n disgyblion heddiw?
  • Pwy sydd i benderfynu pa wybodaeth sy’n hanfodol i ddisgyblion?
  • Pwy ddylai fod â’r hawl i benderfynu pa wybodaeth sy’n hanfodol i ddisgyblion?
  • Pwy sydd wir â’r hawl i benderfynu pa wybodaeth sy’n hanfodol i ddisgyblion?
  • Beth yw rôl disgyblion wrth benderfynu pa wybodaeth sy’n hanfodol?
  • Pwy sydd â’r hawl i benderfynu nad yw’r wybodaeth yn ddigon pwysig i’w dysgu?
  • Beth yw rôl gwybodaeth, tra bod modd Googlo bron popeth?
  • Ai gwybodaeth gadarn sy’n bwydo sgiliau llwyddiannus?
  • Ai profiadau amrywiol sy’n bwydo gwybodaeth?
  • Beth yw’r wybodaeth hanfodol yma yng Nghymru?
  • Sut mae’r wybodaeth hanfodol yn wahanol yr ochr hon i’r ffin?
  • A yw’r wybodaeth Gymreig hon yn mynd i arwain at ddisgyblion plwyfol, gyda diffyg gorolwg ehangach ar y byd?

A dyna ni’n cyrraedd y drafodaeth am Cultural Capital yma yng Nghymru. Mae gennym y term Y Pethe wrth gwrs, sef term a fathwyd gan Llwyd o’r Bryn am y gwerthoedd a’r traddodiadau a gysylltir gyda bywyd Cymraeg ar ei orau. Yn fy marn i, mae angen rhestr debyg i’r atodiad yng nghefn Cultural Literacy ar bob ysgol, er mwyn sicrhau fod digon o wybodaeth am Gymru, ei hanes, ei phobl, ei llenyddiaeth a’i thraddodiadau’n rhan o ddealltwriaeth pob un o’n disgyblion am eu cyfnefin a’u gwlad.

Yr atodiad Americanaidd yng nghefn y gyfrol Cultural Literacy – ydy, mae Cymru yma!

Gobeithio bod y dyddiau pan oedd rhai ysgolion yn dweud fod dysgu am Gymru’n cyfyngu ar orwelion eu disgyblion wedi hen fynd. Gobeithio bod y dyddiau pan oedd rhai athrawon hanes am y gorau’n osgoi dysgu hanes Cymru hefyd yn hen hanes. Pa gymdeithas wâr nad yw’n disgwyl i’w phobl ifanc ddysgu am eu gwlad eu hunain? A chan fod y cyfrifoldeb am benderfynu ar gynnwys y cwricwlwm wedi cael ei ddatganoli i bob ysgol unigol yng Nghymru, man cychwyn, yn fy marn i, fyddai i ysgolion lunio eu fersiwn nhw o’r rhestr Americanaidd. Beth yw’r Hyn sy’n Bwysig i ni? Fel Clwstwr Bro Edern rydym wedi dechrau ystyried ein rhestr ni ac rydym yn mwynhau’r trafodaethau niferus sy’n codi wrth ystyried tag mor fawr, tasg mor bwysig.

Yn y cyfamser, mae’r trafodaethau y tu hwnt i’r ffin wedi cymryd ambell i dro abswrd ac anffodus a dweud y lleiaf.

This image has an empty alt attribute; its file name is screenshot-2020-01-26-at-23.49.05.png

Diolch i’r drefn, mae digon o drydariadau call wedi rhoi’r nonsens uchod yn ei le, gan bwysleisio’r rôl bwysig sydd gan ysgolion wrth sicrhau rhychwant o brofiadau i’w disgyblion, beth bynnag eu cefndir. Ac nid ymgais ddylai’r cwricwlwm hwn fod i hwpo diwylliant dosbarth canol lawr yddfau pawb a ddaw ar ein cyfyl. Wrth ddarllen y trydariad uchod am lefaru o’r Iliad ac adrodd Invictus, dyma fy meddwl yn crwydro i’r golygfeydd hynny yn y ffilm Ibiza! Ibiza! ble mae Glenys am y gorau’n adrodd Y Llwynog gan R Williams Parry. Nid dyma yw’n delfryd ar gyfer disgyblion Clwstwr Bro Edern o bell ffordd, cynhyrchu cenhedlaeth newydd o Glenys ap Rhydderchs yn adrodd sonedau mawr y genedl. Fodd bynnag, rhaid cydnabod un ffaith: os nad yw disgyblion dwyrain Caerdydd yn cael dysgu am Lwynog Williams Parry yn yr ysgol, go brin y byddant yn dod ar ei draws yn unrhyw le arall. A dyna ble mae angen chwilio, chwalu a chynllunio cwricwlwm pwrpasol, ag iddi statws cenedlaethol a rhyngwladol, sy’n rhoi i ddisgyblion brofiadau diwylliannol cyfoethog nad ydynt ar gael iddynt yn unrhyw le arall. Gallan nhw fynd ar ôl eu zombies gartref.

Yng Nghlwstwr Bro Edern mae gennym y trawsdoriad cyfoethog arferol o ddisgyblion a geir yn ysgolion Cymraeg y de ddwyrain. Ac i ni fod yn sicr, nid “cyfoethog” yn ystyr cyfoeth-yn-y-banc yw hwn. Mae ein dalgylch, fel dalgylch y mwyafrif o ysgolion Cymraeg, yn cwmpasu ardaloedd mewn sefyllfaoedd economaidd gwrthgyferbyniol. Efallai bod rhai disgyblion yn byw yng Nghyncoed, ond mae llawer mwy yn byw mewn llefydd eraill. Daw ein disgyblion o drawsdoriad o gefndiroedd, cyd-destunau ieithyddol a dyheadau. Fwy fwy mae’r cefndir economaidd amrywiol yn adlewyrchu’r cyd-destun dinesig yn yr oes hon sydd ohoni. Mae rhai straeon diweddar am dlodi disgyblion ledled y brifddinas fel rhywbeth y disgwyliech ei ddarllen mewn nofel gan Dickens.

Pan ddaeth Estyn i Fro Edern yn 2017, roedd 31% o’n disgyblion yn byw yn yr 20% o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Er gwaetha’r ffaith eu bod yn byw ym mhrifddinas Cymru mae gennym ddisgyblion nad ydynt byth yn mynd “i’r dre”. Yn llythrennol, nid ydynt yn gadael eu stryd, heb sôn am eu milltir sgwâr. Mae rhai nad ydynt wedi bod yn y stadiwm (sy’n ddrud), y castell (sydd yn cynnig tocyn teulu am £5 i drigolion y ddinas) na’r Amgueddfa Genedlaethol (sy’n cynnig mynediad am ddim). Mae mynd yr holl ffordd i’r Bae yn golygu antur i diroedd newydd. Mae’r Cwricwlwm i Gymru‘n gofyn i ni ystyried profiadau disgyblion fel un o’r pethau allweddol, felly mae dyletswydd arnom fel Clwstwr i agor cil y drws i’n disgyblion gyfranogi’n llawn o’r profiad o fyw yn y brifddinas.

Dyna pam aethon ni yn ein blaenau yn haf 2018 i greu Canllaw i’r Eisteddfod Gendlaethol ar gyfer rhieni Caerdydd. Fe rannon ni’r wefan yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol, er mai ein rhieni ni oedd gennym mewn golwg. Roedd y brifwyl ar stepen y drws, llawer o’n disgyblion ddim yn gadael y brifddinas drwy’r haf, ond y mwyafrif helaeth ohonynt heb fynychu’r ‘Gen‘ o’r blaen, ac yn cysylltu pob Eisteddfod gyda rhagbrofion aflwyddiannus yn yr Urdd. Roedd y Canllaw yn cynnwys manylion am y cyffro cyffredinol, ond hefyd y logistics: yr hewlydd a oedd ar gau, y meysydd parcio a oedd ar agor, y bysiau lleol a rhestrau dyddiol o weithgareddau amrywiol ar draws y Bae. Pan ddaeth yr un criw o fechgyn ar eu beics am y pumed diwrnod yn olynol i gasglu gwydriad o squash o stondin yr ysgol, cyn diflannu i weld y “Candelas eto, ond byddwn ni nôl nes mlaen am fwy o squash”, roedden ni ar ben ein digon. Daeth ein teuluoedd yn un llu i’w Prifwyl gyntaf a daethon ni i sylweddoli cymaint o ddrysau allwn ni eu hagor i’n disgyblion o ran y Gymraeg a’i diwylliant, a pha mor awyddus mae nifer ohonynt i fod yn rhan ohoni, hyd yn oed ym mis Awst. Beth oedd angen oedd cyfarwyddiadau clir a chroeso cynnes er mwyn i bobl nad oeddent yn rhan o’r traddodiad eisteddfodol fentro am y tro cyntaf. Er gwybodaeth, roedd dros 2,000 o hits ar y Canllaw Cymraeg, a thros 16,000 o hits ar yr un Saesneg, ystadegyn annisgwyl o ddiddorol yn dangos yr awch ymhlith y di-Gymraeg iddyn nhw a / neu eu plant i fod yn rhan o’r cyffro. Yn hynny o beth, roedd Eisteddfod Caerdydd yn berffaith i ni fel ysgol. Yn lleol. Am ddim. Yn sgil hyn, aeth rhai o’n disgyblion lleiaf eisteddfodol i Brifwyl Llanrwst ac mae nifer o gynlluniau ar y gweill i lawer o’r Chweched fynd i Dregaron eleni. Y Pethe. Ym mis Awst. Pwy feddylie?

Felly, rydyn ni wedi dechrau ystyried cynnwys ein cwricwlwm yn ofalus. Beth yw ein gweledigaeth am yr hyn yr hoffem i’n disgyblion ei wneud yn ystod eu hamser gyda ni? Mwy o’r Candelas? Neu’r Llwynog? Mae penderfyniadau niferus i’w gwneud, ond rydyn ni wedi dechrau archwilio’r cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn bwrw ati i roi cyfoeth o brofiadau at ei gilydd ar gyfer disgyblion dwyrain Caerdydd.

Rydyn ni wedi dechrau drwy greu rhestr o ddigwyddiadau hanesyddol Caerdydd ar hyd y canrifoedd. At hwn daeth y cymeriadau allweddol i hanes ein prifddinas. Aethpwyd ymhellach i drafod yr hanes a’r bobl ar lefel genedlaethol sy’n wybodaeth hanfodol a fydd yn cyfoethogi profiadau addysgiadol ein disgyblion. Rydyn ni wedi dechrau rhoi siap ar y rhestr a dechrau adeiladu cronoleg a chontinwwm gyda’r penawdau a’r bobl ar post its amryliw. Ar y cyd gyda’n hysgolion cynradd mae’r mapio o’r meithrin a’r derbyn hyd ddiwedd blwyddyn 9 ar waith, gyda’r post its yn cael eu symud yn gyson i geisio adeiladu rhywbeth pwrpasol a all ysbrydoli ein disgyblion a’u gwneud yn falch i fod yn ddinasyddion ein prifddinas, yn ein gwlad fach arbennig ni.

Wrth i ni fynd yn ein blaenau, byddwn yn rhannu’r diweddaraf, y penderfyniadau a’r canfyddiadau. Yn y cyfamser, dyma lun o ddechreuadau ein cwricwlwm ar wal yr ystafell gyfarfod! A chofiwch ddechrau’r sgwrs yn eich ysgol chi … #TrafodCwricwlwm #joio

Cyhoeddwyd gan Ceri Anwen James

Athrawes Ieithoedd Modern sy'n Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: